Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
PAC(4) 04-11 – Papur 1
Sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar lywodraethiant ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru
Diben
1. Estynnir gwahoddiad i Aelodau gytuno ar gynnig i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru. Bydd yn ofynnol i’r Grŵp:
2. O gofio natur ei gylch gwaith, byddai angen i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen gyfarfod yn ffurfiol yn gyhoeddus (oni bai bod y Pwyllgor yn penderfynu mewn sesiwn ffurfiol i gwrdd yn breifat). Byddai’n rhaid cyflwyno unrhyw waith y bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ei wneud i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus llawn i’w gymeradwyo. Cynhelir cyfarfod cyntaf y grŵp ar 11 Hydref i ystyried amcangyfrif ACC o incwm a threuliau ar gyfer 2012/13.
3. Dyma’r cynnig drafft i sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ffurfiol:
Cynnig drafft i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar lywodraethiant ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan Reol Sefydlog 17.17.
Bod y pwyllgor yn penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru (ACC); |
Mai cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd cynghori’r Cynulliad ynghylch penodi archwilwyr i edrych ar gyfrifon ACC; ystyried amcangyfrif a chyfrifon blynyddol ACC; ystyried materion sy’n ymwneud â llywodraethiant ac atebolrwydd ACC; ystyried materion sy’n ymwneud ag enwebu unigolion i swydd ACC; ystyried materion eraill a drosglwyddir iddo gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Mai hyd cyfnod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd blwyddyn Cynulliad 2011/2012 ac y bydd yn dod i ben ar 20 Gorffennaf 2012. |
Bod aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys (Darren Millar AC), (Mike Hedges AC), (Aled Roberts AC), a (Leanne Wood AC), a bod (Darren Millar) wedi’i ethol yn Gadeirydd. |
Camau i’r Pwyllgor eu cymryd:
Estynnir gwahoddiad i’r Pwyllgor gytuno ar y cynnig drafft i sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen.